Trosolwg
Mae Dr Tyrie yn Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar ac yn gyfarwyddwr y rhaglen MA mewn Astudiaethau Plentyndod. Mae Jacky wedi gweithio ers 15 mlynedd fel darlithydd ac ymchwilydd ym maes addysg uwch, gan weithio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Abertawe. Mae ymchwil Dr Tyrie yn archwilio plentyndod cynnar o safbwyntiau cymdeithasegol a daearyddol, gan ganolbwyntio ar ymchwil ynghylch hawliau plant a chydraddoldeb a chyfranogiad plant mewn lleoliadau gofal plentyndod cynnar ac addysg.
Mae Dr Tyrie yn arweinydd cenedlaethol ym maes hawliau plant ac mae hi'n cydlynu'r Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREY). Mae'r rhwydwaith CREY yn dod ag academyddion, llunwyr polisi, sefydliadau anllywodraethol ac ymarferwyr ynghyd i rannu gwybodaeth a gweithio ar y cyd. Mae Jacky wedi bod yn brif ymchwilydd ar nifer o brosiectau ymchwil sydd wedi'u hariannu. Mae ymchwil bresennol Jacky yn archwilio'r ffyrdd y mae hawliau dynol yn 'byw' mewn profiadau plant ifanc, ac yn fwy diweddar effaith COVID-19 ar blant ifanc a'u profiadau o'r pandemig. Mae hi wedi cyhoeddi erthyglau am hawliau mewn rhai o'r cyfnodolion canlynol: The International Journal of Children’s Rights, The British Journal of Sociology a Wales Journal of Education.
Rolau ymgynghorol ychwanegol:
- Cydlynydd Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREY)
- Ymddiriedolwr Chwarae Cymru
- Aelod Cyswllt o'r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant
- Aelod o Rwydwaith Ymchwil Plant (Cymru)
- Aelod o'r Rhwydwaith Iechyd Mamau a Phlant (MatCHNet)