Golygfa o'r awyr o gampws Singleton gyda'r môr yn y cefndir
Llun yn wynebu ymlaen

Mr Wyl Jones

Tiwtor mewn Cyfathrebu Chwaraeon a Newyddiaduraeth
Media

Cyfeiriad ebost

103A
Llawr Cyntaf
Technium Digidol
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Wyl yn Diwtor mewn Cyfathrebu Chwaraeon a Newyddiaduraeth yn Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu.

Mae ganddo radd BA yn y Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant o Brifysgol Caerdydd ac MA mewn Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus o Brifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys chwaraeon, newyddiaduraeth a'r ffyrdd y mae'r diwydiannau hyn yn croestorri. Ar hyn o bryd mae'n astudio ar gyfer ei PhD ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnal ymchwil i sylw a roddir gan bapurau newydd Prydain i athletwyr trawsryweddol a phêl-droedwyr gwrywaidd hoyw, er mwyn helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o sut y caiff adroddiadau am athletwyr lleiafrifol eu llunio yn y cyfryngau yn y DU.

Cyn ymuno â'r Brifysgol, bu'n gweithio fel Cynorthwy-ydd Ymchwil ar brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe yn archwilio newyddion gwleidyddol amgen ar-lein . Yn 2025, gweithiodd fel ymchwilydd ar brosiect yn archwilio rhaglen y BBC Question Time, gan gofnodi pa grwpiau/bleidiau gwleidyddol sy'n cael y cyfleoedd mwyaf.

Meysydd Arbenigedd

  • Newyddiaduraeth Chwaraeon
  • Cyfathrebu Chwaraeon
  • Newyddiaduraeth
  • Dadansoddi Cynnwys