Trosolwg
Mae Ninian Freguelli yn Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol yng Nghanolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau y Brifysgol (CYTREC). Cwblhaodd ei PhD mewn rhywedd a'r dde eithafol ar-lein yn 2025 o Brifysgol Abertawe.
Roedd PhD Ninian yn edrych ar y gwahaniaethau mewn agweddau tuag at rywedd a materion sy'n ymwneud â rhywedd ar draws mudiadau gwahanol yr asgell dde eithaf ac eithafol fel y’u nodir ar eu gwefannau.
Mae Ninian yn ymchwilydd ôl-ddoethurol ar y prosiect Repairing Sociality, Safeguarding Democracy: Transatlantic North-South Narratives and Practices of Deep Equality (Social Repair) a ariennir gan UKRI. Mae Social Repair yn brosiect traws-genedlaethol sy'n astudio gwrth-hiliaeth ac ymarferion o gydraddoldeb dwfn ar draws Cymru, Canada, Brasil a De Affrica.