Dr Eva C. Sonnenschein

Athro Cyswllt
Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604106
Swyddfa Academaidd - 110
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Biolegydd y môr ydw i, yn ymchwilio i'r ecosystemau cymhleth sy'n gysylltiedig â microalgâu a microblastigion. Fy nod yw deall eu cymunedau microbaidd a'u rhyngweithiadau.

Mae microalgâu'n gyfrifol am sefydlogi 50% o garbon byd-eang, ac mae ganddynt botensial enfawr hefyd ym maes datblygiadau biodechnolegol. Mae cysylltiad annatod rhwng eu hiechyd ym myd natur ac mewn lleoliadau cymhwysol a'u bacteria cysylltiedig. O ganlyniad, mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar archwilio'r cysylltiadau hyn, â'r nod o ddatgelu'r egwyddorion sylfaenol sy'n llywio eu rhyngweithiadau. Fy nod yn y pen draw yw hwyluso integreiddio microalgâu mewn systemau cynhyrchu biolegol cynaliadwy.

Yn ogystal â'm hymchwiliadau i ficroalgâu, rwy'n ymrwymedig iawn i ddeall y dirwedd ficrobaidd sy'n gysylltiedig â microblastigion. Mae'r llygryddion microsgopig hyn sy'n hollbresennol yn peri bygythiadau sylweddol i fywyd ac ecosystemau'r môr. Drwy fy ngwaith, rwy'n ceisio deall y ddynameg gymhleth rhwng microblastigion a chymunedau microbaidd, gan ymdrechu i liniaru eu heffeithiau niweidiol a meithrin atebion biodechnolegol newydd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n hafan: https://www.sonnenscheinlab.com/

Meysydd Arbenigedd

  • Microbiomau
  • Biocemeg
  • Genomeg
  • Biodechnoleg
  • Bioadfer

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rwy'n ymrwymedig i addysgu microbioleg, bioleg foleciwlaidd a biowybodeg. Drwy brofiadau ymarferol yn y labordy gwlyb a'r labordy sych a darlithoedd a gweithdai gafaelgar, fy nod yw galluogi myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth gadarn o'r meysydd hyn a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. Fy nod yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr i archwilio cymhlethdodau'r byd microbaidd a defnyddio offer moleciwlaidd a chyfrifiadol i gyflawni ymchwil ac arloesi llawn effaith.

Ymchwil Cydweithrediadau