Trosolwg
Mae Beth yn Uwch-ymarferydd Nyrsio ac yn rhagnodwr annibynnol. Mae hi'n uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn addysgu'n bennaf ar y rhaglenni Rhagnodi Annibynnol Anfeddygol ar gyfer nyrsys/bydwragedd, fferyllwyr a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, ac Ymarfer Uwch mewn Gofal Iechyd. Mae Beth yn frwdfrydig am chwalu ffiniau mewn gofal iechyd i wella gofal cleifion.
Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn gofal ar gyfer pobl hŷn, ac ar ôl sefydlu modiwl mewn ‘Asesu’r Person Hŷn’, dyma ymagwedd a fydd yn datblygu ymhellach yn y dyfodol.
Am y rhan fwyaf o’i gyrfa mae hi wedi gweithio mewn lleoliadau gofal Sylfaenol rhwng y Practis Cyffredinol a’r Gymuned.
Mae hi'n gweithio dri diwrnod yr wythnos yn addysgu ac yn parhau i ymarfer.