Trosolwg
Mae gennyf ddiddordeb yn y mecanweithiau sydd wrth wraidd symudiad a dosbarthiad anifeiliaid, yn benodol symudiad anifeiliaid sy’n hedfan. Mae anifeiliaid sy’n hedfan yn talu’r pris am wneud hynny ond mae’r hedfan yn cael ei fodiwleiddio gan yr amgylchedd ffisegol, sef y tywydd, y dirwedd a natur y rhyngweithio rhyngddynt. Rwy’n defnyddio technoleg sydd wedi’i osod ar yr anifeiliaid i ymchwilio i’r ffordd y mae’r ffactorau hyn yn effeithio ar draul a phatrymau symudiad adar ac yn cyfuno hyn â modelau er mwyn archwilio canlyniadau ecolegol symudiad. Gall cofnodwyr sydd wedi’u gosod ar anifeiliaid ddarparu gwybodaeth ddigynsail i ni am ymddygiad adar gwyllt, gan gynnwys yr hyblygrwydd a’r graddau maen nhw’n talu’r pris am wneud hynny a chredaf y gall y data hyn chwarae rhan bwysig wrth fformiwleiddio strategaethau ar gyfer cadwraeth effeithiol sy’n seiliedig ar rywogaethau.