Trosolwg
Rwy’n wyddonydd pridd sydd â diddordeb yn rôl priddoedd o ran lliniaru'r newid yn yr hinsawdd. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall y berthynas rhwng argaeledd dŵr a deinameg carbon pridd, yn enwedig pan fydd pridd yn newid i fod yn ddŵr-wrthyrrol yn sgil tân neu gyfnodau sych estynedig.
Rwy'n dod o Wlad Pwyl yn wreiddiol. Graddiais o Brifysgol Technoleg Lublin, Gwlad Pwyl (BSc, MSc, 2002), fe wnes i gwblhau fy astudiaethau doethuriaeth ym Mhrifysgol Kiel, yr Almaen (PhD, 2006) a dechreuais fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Abertawe (2006).
Croesawaf ohebiaeth yn Saesneg, Almaeneg a Phwyleg.
Dolen i'r fideo amdanaf fy hun https://www.youtube.com/watch?v=1t9YA_-rikc#action=share