An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Federica Barbieri

Dr Federica Barbieri

Uwch-ddarlithydd
Applied Linguistics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606941

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Federica yn arbenigo mewn ieithyddiaeth gymdeithasol, dadansoddi disgwrs, ieithyddiaeth corpws, a disgwrs yr ystafell ddosbarth. Mae ei hymchwil yn cymhwyso dulliau sy'n seiliedig ar gorpws i gyrff mawr o ddisgwrs llafar i ymchwilio i amrywiad a newid geiriadurol-ramadegol, amrywiad pragmatig trafodaeth, ac amrywiad cwmpasran. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn agweddau rhyngbersonol ar iaith mewn cwmpasrannau sefydliadol (llafar). O fewn ieithyddiaeth gymdeithasol, mae wedi gwneud gwaith helaeth ar ferfau dyfynnu ac estynwyr cyffredinol; o fewn dadansoddi disgwrs, mae wedi ymchwilio i farcio ieithyddol 'cymryd rhan' mewn disgwrs ystafell ddosbarth ym mhrifysgolion America. Mae ganddi ddiddordebau hirsefydlog hefyd yn nyluniad deunyddiau corpws a rhyngwynebau ieithyddiaeth corpws ac ymchwil addysgu a chaffael iaith.

Mae wedi cyflwyno mewn cynadleddau ledled yr Unol Daleithiau ac Ewrop, ac mae ei gwaith yn ymddangos mewn sawl cyfnodolyn blaenllaw, gan gynnwys Journal of English Linguistics, Journal of Sociolinguistics, English World Wide, Applied Linguistics, Language Teaching Research, ac English for Specific Purposes.

Cyn ymuno ag Abertawe yn 2012, bu Federica yn addysgu yn Sefydliad Astudiaethau Rhyngwladol Monterey, Prifysgol New Hampshire, a Phrifysgol Reading, lle bu'n addysgu ystod eang o gyrsiau graddedig ac israddedig mewn ieithyddiaeth ac ieithyddiaeth gymhwysol.

Mae gan Federica ddoethuriaeth mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol o Brifysgol Gogledd Arizona, MA mewn TESL/Ieithyddiaeth Gymhwysol o Brifysgol Talaith Iowa, ac MA mewn Ieithoedd a Llenyddiaeth Dramor o Brifysgol Gatholig Milan. Mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Ers 2014 mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr Rhaglen yr MA TESOL.

Meysydd Arbenigedd

  • Ieithyddiaeth corpws
  • Dadansoddi disgwrs
  • Ieithyddiaeth gymdeithasol
  • Amrywiad y cwmpasran
  • Amrywio a newid iaith
  • Pragmateg (drawsddiwylliannol)
  • Disgwrs yn yr ystafell ddosbarth
  • Safbwynt

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Yn Abertawe, rwy'n addysgu amrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn dadansoddi disgwrs, ieithyddiaeth gymdeithasol, a gramadeg ddisgrifiadol.