Trosolwg
Mae Dr Federico Lopez-Terrayn academydd mewn Astudiaethau a Chyfieithu Sbaenaidd yn yr Adran Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd ym Mhrifysgol Abertawe. Cyn hynny bu'n gweithio fel Cymrawd Addysgu mewn Astudiaethau Cyfieithu, Sbaenaidd a Phortiwgaleg eu Hiaith ym Mhrifysgol Leeds a Phrifysgol Sheffield. Derbyniodd Dr Lopez-Terra ei ddoethuriaeth gan Gyngor Ymchwil Cenedlaethol Sbaen (CSIC) ac Universidad Autónoma Madrid yn 2013 gyda summa cum laude. Mae ganddo gymrodoriaeth gyda’r Academi Addysg Uwch. Cafodd ei fonograff cyntaf El sujeto difuso: análisis de la socialidad ên el discurso literario, astudiaeth o lenyddiaeth gymharol a semioteg ddiwylliannol gyda dull gweithredu ieithyddiaeth swyddogaethol (CDA) gan CSIC yn 2016. Mae hefyd wedi cyhoeddi erthyglau ar effaith ddiwylliannol argyfwng Sbaen yn 2008; ar theatr gyfoes Sbaen, Ciwba ac Uruguay; ac ar Ecoleg Ddigidol gyda phwyslais ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys astudiaeth gymharol o ddiwylliannau Sbaenaidd a Phortiwgaleg eu hiaith yn yr 20fed a'r 21ain ganrif, Semioteg Ddiwylliannol, Theroli a Llenyddiaeth Gymharol. Mae'n cyfrannu'n rheolaidd at The Conversation yn ei rhifynnau yn y DU a Sbaen, yn ogystal â chyfryngau eraill fel France24 neu ABC Radio, Awstralia.