Trosolwg
Mae Dr Gareth Dunseath yn Uwch Swyddog Ymchwil gyda Grŵp Ymchwil Diabetes, yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Gareth hefyd yw rheolwr Ymarfer Clinigol a Labordy Da, y cyfleuster labordy canolog achrededig sydd yn Adeilad Grove. Enillodd Gareth Ddoethuriaeth am waith dan y teitl, ‘pathoffisioleg anoddefiad i glwcos’ o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe fel ymgeisydd staff yn 2017, gan ymchwilio i namau dwbl ymwrthedd i inswlin a chamweithrediad celloedd beta yn natblygiad anoddefiad i glwcos.
Mae Gareth yn ymwneud â threialon clinigol mewn diabetes a meysydd perthnasol ers amser maith gyda’r diwydiant fferyllol ac yn fwy diweddar gyda’r diwydiant dyfeisiau a diagnosteg. Mae’r rôl olaf hon wedi arwain at ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu a dilysu biobrofion, profion a dyfeisiau newydd ym maes diabetes.