Trosolwg
Ymunodd George â'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnachu Rhyngwladol (IISTL) yn 2011 fel darlithydd a chafodd ddyrchafiad i uwch ddarlithydd yn 2014. Graddiodd o Brifysgol Genedlaethol a Kapodistrian Athen, ac mae ganddo raddau LLM mewn Cyfraith Fasnachol o Brifysgol Bryste ac mewn Cyfraith Awyr a Gofod o Sefydliad Cyfraith Awyr a Gofod Prifysgol McGill. Cwblhaodd ei radd PhD mewn cyfraith yr awyr gyda phwyslais ar atebolrwydd ac yswiriant yn Neuadd y Drindod, Prifysgol Caergrawnt yn 2009.
Cyn hynny, bu George yn gweithio fel Cyfreithiwr yn Gates and Partners yn Llundain am nifer o flynyddoedd lle bu’n rhoi cyngor ar atebolrwydd awyrofod a materion rheoleiddio cwmnïau awyrennau. Roedd hefyd yn gynorthwyydd i gwnsler cyfreithiol Undeb Rhyngwladol Yswirwyr Hedfan (IUAI) yn darparu cymorth mewn perthynas â disodli Confensiwn Rhufain ar Ddifrod Arwyneb. Mae'n hyfforddwr yn Sefydliad Hyfforddi a Datblygu'r Gymdeithas Cludiant Awyr Rhyngwladol (IATA) lle mae'n addysgu cyfraith awyr ryngwladol i gyfreithwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, cyfraith yswiriant hedfan ac atebolrwydd am gargo awyr.