Professor Gil Alexandrowicz

Yr Athro Gil Alexandrowicz

Athro
Chemistry
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Astudiodd GA ffiseg (BSc ac MSc Hebrew University, PhD - Prifysgol Caergrawnt) ac mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa yn cyflawni gwaith ymchwil ar y rhyngwyneb rhwng cemeg a ffiseg, gan astudio dynameg arwyneb a rhyngweithiadau arwyneb nwy.

Agwedd gyffredin ar waith ymchwil GA yw canolbwyntio ar gwestiynau ymchwil sy'n amhosibl eu hastudio gan ddefnyddio technoleg wyddonol sy'n bodoli, ond y gellir mynd i'r afael â nhw trwy ddylunio, adeiladu a chymhwyso technegau arbrofol newydd.

Mae uchafbwyntiau ymchwil penodol yng ngyrfa GA yn cynnwys y mesur delwedd 2D Fourier-ESR cyntaf [Phys. Rev. Lett. 84, 2973], datblygu dyfais MRI bychan [Patent UDA, 6,377,048], astudiaethau atsain sbiniau heliwm arloesol o fudiant arwyneb [Phys. Rev. Lett. 15, 156103 & Science 304, 1790], gwahanu moleciwlau dŵr ortho a para yn llwyddiannus [Science, 331, 319] a datblygu techneg newydd sy’n gallu rheoli a mesur cyflyrau cwantwm cylchdroadol moleciwlau cyflwr isaf [Nature Communications, 8, 15357 (2017), Nature Communications. 11, 3110 (2020).]

Meysydd Arbenigedd

  • Paladrau Atomig a moleciwlaidd.
  • Ffiseg / Cemeg arwyneb.
  • Trylediad graddfa atomig ar arwynebau
  • Moleciwlau wedi’u trin yn fagnetig.

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Rheoli cyflwr cwantwm cylchdroadol moleciwlau. Pan fydd moleciwl yn gwrthdaro ag arwyneb, mae sawl canlyniad gwahanol posibl. Yn benodol, gall wasgaru yn ôl i’r gwedd nwy, gall lynu wrth yr arwyneb a gall ddatgysylltu adeg y gwrthdrawiad. Mae deall y prosesau hyn yn gam hanfodol i ddeall cemeg arwyneb yn gyffredinol a chatalysis heterogenaidd yn arbennig. Un o’r nodweddion sy’n effeithio ar ganlyniad y gwrthdrawiad yw cyflwr taflunio cwantwm cylchdro y moleciwl (sy’n cyd-fynd â chyfeiriad plân cylchdroi y moleciwl mewn perthynas â’r arwyneb). Nid oedd modd rheoli na mesur y nodwedd gwantwm hon ar gyfer y rhan fwyaf o foleciwlau. Mae ein grŵp wedi datblygu techneg arbrofol newydd sy’n gallu rheoli a mesur cylchdro moleciwlau hydrogen cyflwr isaf, gan roi dealltwriaeth newydd o ryngweithiad moleciwlau gydag arwynebau [Nature Communications, 8, 15357 (2017), Nature Communications. 11, 3110 (2020).

Gwahanu H2O Ortho a Para. Mae moleciwlau dŵr yn bodoli fel dau sbin-isomer gwahanol, a’r gwahaniaeth rhyngddynt yw eu cyflwr sbin niwclear, sy’n debyg i’r achos adnabyddus o hydrogen moleciwlaidd ortho a para. Yn wahanol i hydrogen, roedd hi’n amhosibl gwahanu H2O Ortho a Para. O ganlyniad, prin yw’r wybodaeth sydd gennym ac nid oes cymwysiadau sy’n gallu ymelwa ar eu nodweddion ffisegol gwahanol. Trwy ddefnyddio dull gwahanu â magnetau, llwyddwyd i wahanu’r ddau, gan gynhyrchu paladr moleciwlaidd hynod bur o Ortho-H2O. Mae ein grŵp yn ceisio canfod cymwysiadau newydd sy’n defnyddio’r arloesedd technegol hwn.

Prif Wobrau