Ffotograff pen o Gwenno ar gefndir glas.

Miss Gwenno Williams

Uwch-ddarlithydd
Pharmacy

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602918

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl

Trosolwg

Fferyllydd academaidd yw Gwenno, sy’n gweithio fel Uwch Ddarlithydd Dwyieithog ar y cwrs Fferylliaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

Ar ôl cymhwyso fel fferyllydd yn 2018, bu Gwenno’n gweithio yn y sector gofal eilradd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am dros chwe blynedd. Yn y cyfnod hwn, datblygodd brofiad mewn llu o arbenigeddau, gan arwain at y rôl o Brif Fferyllydd Iechyd Menywod a Phlant dros dro ac Athro Ymarferydd rhwng y bwrdd iechyd a Phrifysgol Abertawe. Ymgymerodd â’i chymhwyster rhagnodi annibynnol yn ystod y cyfnod hwn hefyd, ym maes clefyd llidiol y coluddyn mewn plant. Mae Gwenno’n parhau i weithio fel fferyllydd clinigol banc i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ochr yn ochr â’i swydd addysgu.

Fel Cymraes rugl, gobaith Gwenno yw datblygu gweithlu fferyllol y dyfodol sy’n hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle trwy ei rôl fel Arweinydd y Gymraeg ar gyfer y cwrs fferylliaeth. Hi hefyd yw’r Arweinydd Oriel, sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer y broses o ymgeisio am hyfforddiant sylfaenol, a’r Arweinydd Ffitrwydd i Ymarfer, sy’n delio gyda materion yn ymwneud ag iechyd ac ymddygiad myfyrwyr.

Meysydd Arbenigedd

  • Fferylliaeth clinigol
  • Ymarfer fferylliaeth
  • Fferylliaeth ym maes ysbyty