Trosolwg
Ymunodd Dr Lisa Trainor â Phrifysgol Abertawe yn 2024. Cwblhaodd ei BKin, MA, a PhD ym Mhrifysgol Columbia Brydeinig yn Vancouver, Canada. Ym maes seicoleg chwaraeon, roedd ei hymchwil MA yn canolbwyntio ar anafiadau chwaraeon a lles seicolegol athletwyr prifysgol ac roedd ei hymchwil PhD yn archwilio lles seicolegol athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd. Yn ystod ei PhD, roedd gan Lisa'r cyfle i weithio o bell, gan deithio'n rhyngwladol i rwydweithio ag ymchwilwyr eraill â meysydd astudio tebyg.
Mae diddordebau ymchwil Lisa yn ymwneud â lles athletwyr a dulliau ansoddol. Mae ei diddordeb mewn lles seicolegol athletwyr yn cynnwys gweithio tuag at ddealltwriaeth gysyniadol well o sut olwg sydd ar les mewn cyd-destun perfformiad uchel, yn ogystal â chreu strategaethau ymarferol i gefnogi lles athletwyr. Yn ogystal â hyn, mae ei diddordeb mewn dulliau ansoddol yn cynnwys deall (datgyfrinio) dulliau ansoddol a’u datblygu’n barhaus, yn benodol dadansoddi thematig atblygol.
Yn ogystal â'i hymchwil, mae Lisa'n mwynhau chwarae a gwylio chwaraeon. Fel cyn-athletwr Varisty (hoci iâ) mae ganddi brofiad o fod yn athletwr a gweithio gydag athletwyr fel ymgynghorydd sgiliau meddyliol.