Dr Helen Chadwick

Dr Helen Chadwick

Uwch-ddarlithydd
Chemistry

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 1524

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cwblhaodd Dr Helen Chadwick ei Gradd Meistr mewn Cemeg ym Mhrifysgol Rhydychen yn 2008, a chwblhaodd ei Doethuriaeth mewn Cemeg Ffisegol yn 2012. Derbyniodd wobr ddoethurol EPSRC i barhau â’i gwaith ymchwil fel myfyriwr ôl-ddoethurol yn Rhydychen, cyn symud i’r EPFL yn y Swistir yn 2013 i gynnal arbrofion deinameg arwynebau nwy. Ar ddiwedd 2016, enillodd Dr Chadwick Gymrodoriaeth Symudedd Ôl-ddoethurol Uwch o’r Swiss National Science Foundation i dreulio dwy flynedd yn y grŵp Cemeg Damcaniaethol ym Mhrifysgol Leiden yn yr Iseldiroedd, gan gyflawni cyfrifiadau i gael darlun cliriach o’r arbrofion a wnaeth yn yr EPFL. Ymunodd Dr Chadwick â’r grŵp Deinameg Arwynebau ym Mhrifysgol Abertawe fel Swyddog Ymchwil (uwch ôl-ddoethurol) ym mis Chwefror 2019, a’i phrif ffocws yno yw datblygu dulliau dadansoddi a fydd yn cael eu defnyddio i ddehongli data a fesurir gan ddefnyddio’r ymyradur pelydrau moleciwlaidd unigryw sydd yn yr Adran Gemeg.

Meysydd Arbenigedd

  • Deinameg arwynebau nwy
  • Stereodeinameg
  • Gwasgaru pelydrau moleciwlaidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Yn ddiweddar, mae’r grŵp Deinameg Arwynebau wedi datblygu techneg triniaeth fagnetig newydd sy’n ein galluogi i reoli cyflyrau taflunio troelliadau cylchdroadol a niwclear moleciwlau cyflwr sylfaenol. Mae ffocws fy ngwaith ymchwil ar ddatblygu’r dechneg hon er mwyn ateb cwestiynau sylfaenol nad oedd yn bosibl gyda dulliau o’r radd flaenaf blaenorol ar gyfer moleciwlau cyflwr sylfaenol, gan gynnwys.

Sut mae cyfeiriadedd cylchdroadol moleciwl (h.y. boed yn cylchdroi fel hofrennydd neu olwyndroi) yn effeithio ar ganlyniad y gwrthdrawiad â’r arwyneb?

A ellir rheoli cyfraddau ymateb drwy newid cyfeiriadedd cylchdroadol moleciwlau sydd yn y cyflwr nwy?

A all gwrthdrawiad unigol ag arwyneb arwain at naill ai fflip troelliad niwclear neu drawsnewidiad troelliad niwclear yn y moleciwl?