mynedfa flaen adeilad Grove
Llun Heidi Phillips

Dr Heidi Phillips

Athro Cysylltiol ar gyfer Gofal Sylfaenol
Medicine

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602747

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Mae Heidi wedi gweithio ar y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion ers iddi gychwyn yn 2004, ac yn rhan o’r gwaith o gynllunio ac adolygu’r cwricwlwm ac achredu’r rhaglen yn llwyddiannus. Mae wedi cael nifer o rolau yn ystod ei chyfnod ar y rhaglen, gan gynnwys: Arweinydd Gofal Sylfaenol, Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen, Cyfarwyddwr Sicrhau Ansawdd a Chyfarwyddwr Derbyn Myfyrwyr.
Ar hyn o bryd mae Heidi yn Athro Cyswllt Gofal Sylfaenol ac yn arwain y gwaith o ddatblygu'r Academi Gofal Sylfaenol ac mae wedi ennill Gwobr Arloesi Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Gwobr Arloesedd Addysgu a Dysgu yr BMJ/BMA Cymru (2019) am ei gwaith gyda’r Academi honno. Mae wedi ennill Gwobr Athro Clinigol y Flwyddyn y BMJ/BMA Cymru (2019) hefyd am ei gwaith yn ehangu mynediad. Mae Heidi yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, yn Gymrawd yr Academy of Medical Educators, yn Aelod Gweithredol o Fwrdd Cynghrair Dethol y Medical Schools Council ac yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Meysydd Arbenigedd

  • Gofal Sylfaenol
  • Meddygaeth sy’n Canolbwyntio ar Gleifion
  • Addysg feddygol sy’n canolbwyntio ar y Dysgwr
  • Ehangu Mynediad
  • Recriwtio a Chadw’r gweithlu meddygol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Arweinydd Gofal Sylfaenol lle datblygodd y rhaglen sgiliau cyfathrebu
Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen lle arweiniodd y gwaith o ddatblygu cronfa ddata o gwestiynau ac roedd yn gyfrifol am greu’r arholiadau ysgrifenedig ar gyfer y myfyrwyr
Cyfarwyddwr Sicrhau Ansawdd, yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth sicrhau ansawdd gyffredinol y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion.
Cyfarwyddwr Derbyn Myfyrwyr lle ailgynlluniodd y broses ddethol

Dr Heidi Phillips

Dr Heidi Phillips

Athro Cysylltiol ar gyfer Gofal Sylfaenol, Medicine
+44 (0) 1792 602747