Trosolwg
Ian yw'r Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Diwylliant Ymchwil. Yng ngeiriau'r Gymdeithas Frenhinol, ‘Mae diwylliant ymchwil yn cwmpasu ymddygiadau, gwerthoedd, disgwyliadau, agweddau a normau ein cymunedau ymchwil. Mae'n dylanwadu ar lwybrau gyrfa ymchwilwyr ac yn pennu'r ffordd y caiff ymchwil ei chynnal a'i chyfleu.’ Nod Ian yw hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o uniondeb ymchwil, arferion ymchwil agored a sicrhau cydnabyddiaeth a gwobrwyo'r cyfraniadau amrywiol y mae pobl yn eu gwneud i'n cymunedau. Mae'n gweithio ar draws y sefydliad i wreiddio ein hymrwymiadau i asesiadau a metrigau ymchwil cyfrifol.
Roedd Ian yn un o gymrodorion sefydlu Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (MASI) ac ym mis Medi 2024 penodwyd ef yn Gyfarwyddwr nesaf MASI. Lansiodd Prif Weinidog Cymru MASI yn 2021 fel y sefydliad astudiaethau uwch cyntaf yng Nghymru i ganolbwyntio ar ymchwil ryngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol drawsnewidiol. Ers hynny, mae wedi meithrin cymuned fywiog ac amrywiol o ymchwilwyr (yn Abertawe ac mewn rhwydweithiau byd-eang) sy'n barod i ymateb i heriau a chyfleoedd mwyaf dybryd y byd. Mae MASI a'r gwaith y mae'n ei hwyluso'n rhannau hollbwysig o ddiwylliant ymchwil Abertawe.
Cyn hyn, Ian oedd arweinydd Mentergarwch, Partneriaethau ac Arloesi'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, gan gefnogi'r ecosystem arloesi ar draws y Gyfadran.
Fe yw'r aelod arbenigol ar Bobl, Diwylliant a'r Amgylchedd (PCE) ar Brif Banel B ymarfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2029.