Trosolwg
Judy Jenkins yw Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc mewn Gwybodeg Iechyd. Mae’n addysgwr profiadol ac arloesol, ac ymunodd â Phrifysgol Abertawe ym 1999 ar ôl trosglwyddo o Brifysgol Aberystwyth. Cyn hyn, roedd yn gweithio’n helaeth yn y GIG mewn rolau amrywiol. Roedd Judy yn gweithio i Virgin Media, yn olygydd sianel iechyd ar-lein, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor iechyd i’r cyhoedd. Mae’n arbenigo mewn ymchwil ansoddol, ac yn gallu meithrin myfyrwyr a rhoi arbenigedd lefel uchel iddynt. Mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, yn Uwch Fentor Academaidd i’r Ysgol Feddygaeth, yn Swyddog Camymddwyn Academaidd ac yn diwtor Derbyn Myfyrwyr ar gyfer y cwrs MSc mewn Gwybodeg Iechyd.