Trosolwg
Jen ydw i, rwy'n gweithio yn Labordy Technoleg Rhyngweithio'r Dyfodol yn y Ffowndri Gyfrifiannol. Mae fy mhrif ddiddordeb ymchwil yn canolbwyntio ar gymunedau sy'n dod i'r amlwg fel y'u gelwir lle mae set benodol o heriau’n rhwystro defnyddwyr rhag cael mynediad at dechnoleg (e.e., diffyg cysylltedd â'r rhyngrwyd, pŵer cyfyngedig, llythrennedd isel, mynediad prin at ffonau clyfar ac ati). Fel rhan o'r gwaith hwn, rwy'n treulio cryn dipyn o amser yn gweithio yn y fan a'r lle gyda defnyddwyr terfynol cymunedol yn dysgu oddi wrthynt ac yn gweithio gyda nhw i greu systemau rhyngweithiol digidol sy'n gweddu i'w cyd-destunau.
Mae'r rhan fwyaf o'm gwaith yn golygu cydweithio â rhai cydweithwyr agos iawn yn Abertawe, ond hefyd ar draws y byd gan gynnwys cysylltiadau cryf â chydweithredwyr yn IIT Bombay, Université Joseph Fourier, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Cape Town, IBM, Microsoft a Google. Mae'r gwaith hwn sy'n cynnwys teithio sylweddol i gymunedau lleol yn India, De Affrica a Kenya, ac ymgysylltu â nhw, wedi ennill nifer o wobrau (gan gynnwys 7 gwobr bapur gorau/crybwylliad anrhydeddus yn ogystal ag un ar gyfer effaith hirdymor) ac wedi ennyn llawer o sylw yn y cyfryngau (Er enghraifft, cafodd un prosiect, sy'n archwilio'r defnydd o ryngwynebau lleferydd sgyrsiol mewn amgylcheddau slymiau cyhoeddus drwy weithredu hirdymor yn y fan a'r lle, ei gynnwys yn adroddiad EPSRC ar "ddegawd o lwyddiant yn yr Economi Ddigidol" a chafodd sylw gan BBC Digital Planet.). Mae rhagor o wybodaeth am fy nghyhoeddiadau i ar gael isod ac mae hefyd ar gael trwy ACM, DBLP a Google Scholar.