Trosolwg
Dr Jonathan Phillips yw Arweinydd Ffiseg Cyseinedd Magnetig Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBUHB). Ymgymerodd â’r rôl hon ym mis Ebrill 2020, wedi iddo ymuno ag Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe yn 2012.
Mae delweddu meintiol yn gyrru ei ddiddordebau ymchwil, sy'n cynnwys y dehongliadau ffisegol sylfaenol o'r signal delweddu cyseinedd magnetig (MRI) a chymwysiadau clinigol. Prif ddiddordeb ymchwil Jon ar hyn o bryd yw delweddu pwysol gwasgariad di-Gausaidd.
Fel Gwyddonydd Clinigol cofrestredig, Jon yw Arbenigwr Diogelwch Cyseinedd Magnetig (MRSE) Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Darpara hyfforddiant tra arbenigol i Wyddonwyr Clinigol dan Hyfforddiant GIG Cymru mewn MRI fel rhan o’r rhaglen hyfforddiant gwyddonol (STP).
Mae Jon yn gyn-fyfyriwr Crwsibl Cymru http://www.welshcrucible.org.uk/jonathan-phillips/ ac yn croesawu cydweithio rhyngddisgyblaethol