Trosolwg
Mae'r manylion cyswllt ar gyfer materion prifysgol yn unig ac nid ar gyfer clinigol a meddygol.
Cymhwysodd yr Athro Jeff Stephens (BSc, MB BS, PhD, FRCP, FAcadMEd, FHEA) mewn Meddygaeth o'r Coleg Imperial, Llundain ym 1994. Cwblhaodd hyfforddiant arbenigol mewn Diabetes, Endocrinoleg a Meddygaeth Fewnol Gyffredinol ledled Canol Llundain. Rhwng 2001-2004 cwblhaodd PhD mewn Geneteg yn y Ganolfan Geneteg Cardiofasgwlaidd yng Ngholeg Prifysgol Llundain, a gefnogwyd gan Gymrodoriaeth Hyfforddiant Clinigol Diabetes UK. Dychwelodd i Gymru yn 2005 ar ôl cael ei benodi'n Uwch-ddarlithydd Clinigol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd mae'n Athro Clinigol Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Feddyg Ymgynghorol mewn Diabetes, Endocrinoleg a Meddygaeth Fewnol Gyffredinol yn Ysbyty Treforys, Abertawe. Mae'n weithgar ym meysydd addysgu ac ymchwil, ac mae'n parhau i fod yn ymarferydd meddygol mewn diabetes, endocrinoleg a meddygaeth gyffredinol. Mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol ar gyfer Addysg Feddygol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a Deon Cyswllt ar gyfer Gyrfaoedd Academaidd yn Neoniaeth Cymru. Hefyd, roedd yn aelod o Bwyllgor Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol Diabetes UK ac yn Gadeirydd Pwyllgor Trefnu Cynhadledd Broffesiynol Diabetes UK ar gyfer 2020 a 2021. Mae ganddo dros 190 o gyhoeddiadau sydd wedi'u hadolygu gan gymheiriaid.