Trosolwg
Mae ymchwil yr Athro Karl Hawkins yn canolbwyntio ar ddatblygu biofarcwyr newydd ym maes ceulo gwaed a’u trosi’n glinigol drwy ddefnyddio technegau rheolegol uwch. Yr Athro Hawkins yw prif ymchwilydd y prosiect "chwalu clotiau" gwerth £1.2 miliwn a ariennir gan yr EPSRC. Mae'n awdur mwy na 70 o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid ym meysydd mecaneg hylifol, dyfeisiau meddygol a hematoleg. Mae ei ymchwil wedi denu cyllid gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, y Cyngor Ymchwil Meddygol, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, y British Council, partneriaid diwydiannol amrywiol a Chymrodoriaeth RCUK, oll â gwerth cronnus sy’n fwy na £10 miliwn. Mae'r Athro Hawkins yn aelod gweithgar o'r gymuned reoleg, ac mae wedi gwasanaethu fel ysgrifennydd etholedig Cymdeithas Reoleg Prydain ac yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Mecaneg Hylifol An-Newtonaidd. Mae hefyd yn cydweithio'n agos â chlinigwyr yng Nghanolfan Ymchwil Meddygaeth Frys Cymru yn Ysbyty Treforys.