Dr Laura Wilkinson

Athro Cyswllt
Psychology
905
Nawfed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Seicolegydd arbrofol yw Dr Laura Wilkinson sydd â ddiddordeb ymchwil mewn ymddygiad bwyta a rheoli pwysau. Yn ddiweddar, fe wnaeth gwblhau ei gwaith a oedd yn ffocysu ar ymddygiad bwyta cynaliadwy a pha mor dderbyniol yw defnyddwyr i fwydydd neu gynhwysion newydd. Mae gan Laura ddiddordeb parhaus mewn amrywiaeth bwyd gyda diddordeb arbennig mewn effaith ‘eitemau bwyd aml-gydran’ a chyfuniadau o fwydydd ar ymddygiad bwyta. Yn olaf, mae Laura wedi adeiladu corff o ymchwil ar y berthynas rhwng cyfeiriadedd ymlyniad ac ymddygiad bwyta anghyson, gan gynnwys gwaith gyda chleifion sy'n cael llawdriniaeth bariatrig, y rhai â syndrom bwyta nos, a diabetes.

Ar hyn o bryd, Laura yw Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ac, yn flaenorol, bu'n Ddirprwy Arweinydd Athena SWAN ar lefel sefydliadol ac yn Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Ysgol yr Ysgol Seicoleg. Arweiniodd Laura (mis Medi 2022) y cais Athena SWAN Arian ar y cyd rhwng yr Ysgol Seicoleg a'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a oedd yn llwyddiannus.

Cyn hynny, Laura oedd arweinydd rhwydwaith lleol Prifysgol Abertawe ar gyfer Rhwydwaith Atgynhyrchu’r DU (2019 - 2023). Mae’n parhau i gefnogi’r rhwydwaith yn lleol yn ei chenhadaeth i hyrwyddo ymarfer ymchwil agored.

  • BSc (Anrh), Seicoleg Arbrofol, Prifysgol Bryste
  • PhD, Seicoleg Arbrofol (Maeth ac Ymddygiad), Prifysgol Bryste

Meysydd Arbenigedd

  • Ymddygiad Bwyta
  • Gordewdra
  • Bwyta anhwylder
  • Diabetes
  • Cyfeiriadedd ymlyniad
  • Amrywiaeth dietegol
  • Bwyta heb ei atal