Trosolwg
Mae Louise Miskell yn athro yn yr Adran Hanes yn Abertawe lle mae’n dysgu modiwlau israddedig ar hanes modern Prydain a Chymru ac yn goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig ar lefel meistri a doethurol. Mae ei diddordebau ymchwil yn rhychwantu hanes bywyd diwydiannol a threfol ym Mhrydain o’r 18fed i’r 20fed ganrif, ac mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys llyfrau ac erthyglau ar hanes y diwydiannau copr a dur a hanes Abertawe. Yn 2019-2020, arweiniodd brosiect ymchwil The Social Worlds of Steel, a ariannwyd gan yr AHRC, yn ymchwilio i effaith y diwydiant dur ar bobl a chymunedau yng Nghymru. Mae ei hymchwil ar ddur yn parhau ac mae ei phrosiectau ysgrifennu cyfredol yn cynnwys llyfr ar hanes cymdeithasol dur yng Nghymru.