Dr Liadh Timmins

Dr Liadh Timmins

Darlithydd mewn Seicoleg
Psychology

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295569
712
Seithfed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Liadh Timmins yn seicolegydd ac epidemiolegydd y mae ei hymchwil yn ymwneud yn fras â chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Mae hyn yn cynnwys effeithiau stigma a gwahaniaethu ar leiafrifoedd rhywiol a rhywedd; seicoleg rhagfarn; a rhannau cymdeithasol a gwybyddol tueddfryd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. O ran dulliau, mae'n nhw'n defnyddio arolygon ar raddfa fawr, arbrofion, mesurau newydd, ac ystadegau trylwyr. Mae eu gwaith yn defnyddio lens groestoriadol a ffeministaidd.

Derbyniodd Dr Timmins radd BA mewn Seicoleg o Brifysgol Maynooth, MSc mewn Seicoleg Gymhwysol o Goleg y Drindod Dulyn, a PhD mewn Seicoleg o Goleg y Brenin Llundain. Cwblhawyd hyfforddiant ôl-ddoethurol mewn Epidemioleg gyda ffocws ar Epidemioleg Gymdeithasol ym Mhrifysgol Columbia.

Mae Dr Timmins ar gael fel goruchwyliwr posibl ar gyfer ymchwil ôl-raddedig, yn enwedig ar gyfer ein Graddau Ymchwil Seicoleg.

Meysydd Arbenigedd

  • Tueddfryd Rhywiol a Hunaniaeth o ran Rhywedd
  • Gwahaniaethau ac anghydraddoldebau iechyd
  • Stigma, Gwahaniaethu a Rhagfarn
  • Penderfynyddion cymdeithasol iechyd
  • Straen Lleiafrifol
  • Ymateb Rhywiol Dynol
  • Lles ac Iechyd Meddwl
  • Cydraddoldeb mewn gofal