Trosolwg
Rwy'n ffisegydd atomig arbrofol, gyda diddordebau mewn positronau, positroniwm a gwrth-hydrogen. Rwyf wedi cyfrannu at lawer o agweddau ar ddatblygiad ffiseg gyda phositronau ynni isel ac wedi helpu i sefydlu ffiseg paladrau positroniwm. Ers canol y 1980au rwyf wedi arloesi ym maes ffiseg gwrth-hydrogen. Fi oedd un o sylfaenwyr cydweithrediad ATHENA a gynhyrchodd gwrth-hydrogen oer am y tro cyntaf ac yn ddiweddarach roeddwn yn un o sylfaenwyr cydweithrediad ALPHA. Mae ALPHA wedi cynnal sawl arbrawf ar wrth-hydrogen, gan gynnwys mesuriadau sbectrosgopig sy'n cynnwys cyflyrau cynhyrfol ac isaf a thrwy hynny, cyflwyno oes o ffiseg drachywir gyda gwrth-fater atomig.