Trosolwg
Mae fy niddordebau ymchwil o fewn meysydd eang a rhyngddisgyblaethol deunyddiau ffwythiannol gweithredol a pholymerig meddal o arbrofion i fodelu cyfrifiannol. Rydw i wedi gweithio o fewn meysydd modelu meinwe biolegol a nodweddion deunydd polymerig. Yn ddiweddar rydw i wedi ymddiddori mewn geliau ymatebol (e.e. hydrogeliau, fferogeliau) a deunyddiau meddal sy’n gwella’u hunain. Rydw i wedi llwyddo i ennill grantiau ymchwil ar gyfer cywain ynni gan ddefnyddio polymerau electro-weithredol o donnau’r môr ar arfordir Cymru.