Dr Nicole Esteban

Dr Nicole Esteban

Athro Cysylltiol Ecoleg y Môr
Biosciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295454

Cyfeiriad ebost

116
Llawr Cyntaf
Adeilad Margam
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rydw i’n fiolegydd morol ac yn canolbwyntio ar ecosystemau arfordirol trofannol, ac mae gen i 20 mlynedd o brofiad yn rheoli parthau arfordirol integredig gyda chyrff anllywodraethol, asiantaethau cyhoeddus a phreifat yn y Caribî, y Môr Coch a Chefnfor India. Mae gen i brofiad helaeth ym maes rheoli adnoddau naturiol a chadwraeth fel Rheolwr Parc Morol a Pharc Cenedlaethol (8 mlynedd yng Ngharibî’r Iseldiroedd). Mae fy mhrofiad ymchwil yn cynnwys asesiadau amgylcheddol, asesiadau o bysgodfeydd ac asesiadau o grwbanod môr.

Fel Ymchwilydd a chyn Ymgynghorydd i’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, rydw i wedi cynhyrchu a chydgysylltu Cynlluniau Rheoli Ardaloedd Gwarchodedig, Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth ac Asesiadau o’r Effaith ar yr Amgylchedd, ac mae gen i ddiddordeb personol parhaus mewn cyd-reoli adnoddau naturiol, ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn gwaith rheoli cadwraeth a chyfathrebu gweithgareddau cadwraeth ac ymchwil i’r cyhoedd yn ehangach.

Mae fy niddordebau ymchwil cyfredol yn ymwneud â gwella ein dealltwriaeth o ddefnydd ffawna morol o ofodau a chynefinoedd, gan ganolbwyntio ar grwbanod môr a physgodfeydd, yn y Caribî a Chefnfor India yn bennaf ond hefyd yn nes adref ym Mae Abertawe.

Rydw i’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Am fanylion am fy ngwaith yn goruchwylio addysgu ac ymchwil, gweler yr adrannau isod. Mae’r rhestr lawn o gyhoeddiadau ar gael ar Google Scholar.

Meysydd Arbenigedd

  • Ecoleg forol
  • Bioleg forol
  • Ecoleg crwbanod môr
  • Cadwraeth forol drofannol
  • Cadwraeth bioamrywiaeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rydw i wedi bod yn addysgu Bioleg Forol yn Abertawe ers 2012. Rydw i’n addysgu pynciau sy’n cyd-fynd â’m cefndir a'm profiad mewn (a) ymchwil i ecoleg forol drofannol a (b) arferion proffesiynol sy’n gysylltiedig â gwaith ymgynghori ac asesiadau o’r effaith ar yr amgylchedd. Rydw i’n (cyd) arwain modiwlau gradd 3ydd blwyddyn: cwrs maes mewn bioleg forol drofannol a sgiliau proffesiynol mewn bioleg forol. Rydw i’n canolbwyntio ar adnoddau a thechnegau o sectorau morol amrywiol er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr Bioleg Forol yn graddio gyda sgiliau cyflogadwyedd cyfoes.  

Ymchwil Prif Wobrau