Trosolwg
Mae Non Vaughan Williams yn uwch-ddarlithydd yn yr Adran Cyfryngau a Chyfathrebu ac yn Gyfarwyddwr y graddau Blwyddyn mewn Diwydiant. Hi hefyd yw Swyddog Cyflogadwyedd yr adran ac Arweinydd Cyflogadwyedd yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu.
Bu Non yn gweithio fel ymchwilydd a chynhyrchydd llawrydd ac yna i’r BBC cyn cychwyn ar yrfa academaidd. Mae’n parhau i gynhyrchu a chyflwyno rhaglenni yn achlysurol er mwyn cadw cysylltiad gyda’r diwydiant a hwyluso profiadau i fyfyrwyr.
Mae’n un o’r pedwar aelod o staff o fewn yr adran sy’n medru’r Gymraeg ac yn darlithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.