Trosolwg
Rwy'n Uwch-ddarlithydd yn Adran Mathemateg Prifysgol Abertawe. Fy niddordebau ymchwil yw geometreg algebraidd gymhwysol, ac algebra cymudol, yn enwedig eu defnyddio i ddatrys problemau sy'n codi mewn modelu geometrig a Dylunio Geometrig drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAGD). Cyn hynny, rhwng 2013 a 2017, roeddwn yn Ymchwilydd Ôl-ddoethurol gyda’r Group of Symbolic Computation yn RICAM, yn Linz, Awstria.