Trosolwg
Mae Oliver yn wyddonydd data yng Nghanolfan Ymchwil yr Amgylchedd ac Iechyd yn yr Adran Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Caiff ei ariannu drwy Ymchwil Data Iechyd y DU, gan weithio ar brosiectau o dan raglenni ysgogi ymchwil ar benderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd a llid ac imiwnedd.
Mae'n cwblhau ei PhD mewn Astudiaethau Gofal Iechyd a Meddygol lle bu'n ymchwilio i effeithiau'r amgylchedd naturiol ar iechyd corfforol, gyda phrosiectau ar farwoldeb pob achos, melanoma a COVID-19. Enillodd BSc (Anrh) mewn Bioleg ac MSc mewn Gwyddor Data Iechyd gynt hefyd.