Trosolwg
Rwy’n Ecolegydd ac yn Fiolegydd Amgylcheddol, gyda ffocws penodol ar ecoleg gymunedol a chadwraeth, ac mae gennyf brofiad helaeth mewn addysgu a chydweithio â phartneriaid diwydiannol. Rwy’n addysgu ac ymchwilio i amrywiaeth o bynciau o ecosystemau daearol i ecosystemau morol. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gwasanaethau ecosystem a’r rhyngweithio rhwng rhywogaethau a’u cynefinoedd, o blanhigion a phridd, i blanhigion a pheillwyr. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn dal a storio carbon ac ecoleg adfer er mwyn lliniaru colledion yn sgil y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Rwy’n rhan o nifer o brosiectau adfer, yn lleol ac yn fyd-eang, gan gynnwys adfer Mawndiroedd yng Nghymru er mwyn gwella’r ffordd y caiff carbon ei storio a dŵr ei gadw, adfer mangrofau yn y Gambia er mwyn gwella amddiffynfeydd arfordirol, dulliau storio carbon a diogelwch bwyd, ac Rwy’n gweithio gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar y prosiect Caru Natur Cymru er mwyn gwella lles pobl, bywyd gwyllt a’r amgylchedd, ar hyd a lled Cymru.
Rwy’n addysgu wyneb yn wyneb yn bennaf, yn arwain neu’n cyfrannu at nifer o fodiwlau ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.