Trosolwg
Mae Paddy yn Athro Cysylltiol mewn Athroniaeth a Damcaniaeth Wleidyddol. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Rhaglenni Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg. Mae ganddo ystod eang o ddiddordebau, yn cwmpasu pynciau mewn moeseg, athroniaeth wleidyddol a damcaniaeth gymdeithasol. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar faterion yn ymwneud â rhywedd, hunaniaeth, pŵer, gwleidyddiaeth cydnabyddiaeth ac edifeirwch. Mae ei ymchwil ddiweddar a phresennol yn canolbwyntio, ymhlith pethau eraill, ar foeseg rywiol, magu plant a'r teulu, ac athroniaeth emosiwn. Mae hefyd yn cynnal prosiect sy'n ymchwilio i hanes athroniaeth ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae'n awdur neu’n gyd-awdur pedwar llyfr. Y diweddaraf o'r rhain yw Regret (Oxford University Press, 2024). Mae'r gwaith hwn yn cynnig archwiliad cynhwysfawr o natur edifeirwch a'i rôl mewn gwneud penderfyniadau. Wrth wneud hynny, mae'n ymdrin â meysydd pwysig o ddadl athronyddol, fel rhesymau, amser a chyfiawnhad, yr hunan amserol, gwerthoedd a gwerthfawrogi, cyfrifoldeb, fframio achosol digwyddiadau a hunan-faddeuant. Mae hefyd yn archwilio sut mae edifeirwch wedi troi’n wleidyddol mewn trafodaethau am erthyliad a hunaniaethau traws, ac yn datgelu ffyrdd y defnyddir edifeirwch i reoleiddio dewisiadau atgenhedlu pobl. Mae adolygiadau o'r llyfr ar gael yma, yma ac yma. Cyd-awdurwyd ei lyfr blaenorol, Critical Phenomenology: An Introduction (Polity, 2022) gydag Elisa Magrí.