Bay Campus image
female smiling

Ms Sarah Atkinson

Swyddog Ymchwil
Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
205
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Mae gan Sarah dros ddegawd o brofiad fel Gwyddonydd Amgylcheddol, Ymgynghorydd ac Ymchwilydd. Cyn iddi symud i Brifysgol Abertawe, bu’n gweithio yn Sydney, Awstralia ac roedd yn gyfrifol am ddarparu Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol ac Asesiadau o’r Effaith Ecolegol o ansawdd i gleientiaid y llywodraeth a’r sector preifat ar draws y diwydiannau telathrebu, ynni (gwynt/glo), a chludiant (ffyrdd/rheilffyrdd). Roedd cwblhau archwiliadau ynni a sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol mewn perthynas ag ansawdd dŵr a systemau rheoli amgylcheddol hefyd yn rhan o’i chylch gwaith.

Dechreuodd Sarah ddysgu myfyrwyr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017, ar ôl gweithio o fewn y sector Addysg Uwch yn Sydney, Awstralia; lle datblygodd bolisïau cynaliadwyedd hefyd a gweithredu mentrau cynaliadwyedd.

Mae gwaith ymchwil Sarah gyda’r Ganolfan Ymchwil ac Arloesedd Iechyd a’r Amgylchedd (CHEMRI) yn archwilio polisi, deddfwriaeth a throthwyon crynodiad cysylltiedig ansawdd aer cyfredol. Yn ogystal, fel rhan o CHEMRI, mae Sarah wedi gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraethau Cymru a’r DU mewn perthynas ag effeithiau polisi ansawdd aer.

Meysydd Arbenigedd

  • Ansawdd Aer
  • Cynaliadwyedd Corfforaethol
  • Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol
  • Rheolaeth Amgylcheddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Sarah yn dysgu cynaliadwyedd a rheolaeth amgylcheddol ynghyd â chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ar lefel israddedig.

Ymchwil