Trosolwg
Yn ddiweddar, penodwyd yr Athro Margadonna yn Gadair ym Mheirianneg Deunyddiau.
Ysbrydolwyd ei gwaith wrth iddi sylweddoli bod prif ddatblygiadau technoleg fodern yn dibynnu’n llwyr ar argaeledd deunyddiau sydd yn cynnwys nifer o swyddogaethau ac yn medru gweithredu ar raddfeydd o hyd gwahanol, mewn amodau caled fel eithafion pwysedd/tymheredd ac amgylcheddau cyrydol iawn. Mae’r gofynion perfformio ar gyfer deunyddiau yn gynyddol ddyrys ac yn gofyn am ymchwil gwirioneddol rhyngddisgyblaethol.
Dros y blynyddoedd mae’r Athro Margadonna wedi casglu gwybodaeth a dod i ddeall nifer o feysydd gwyddonol gwahanol gan ddechrau gyda’i chefndir mewn cemeg, anhepgor am ddylunio a chynhyrchu deunyddiau newydd, drwy ffiseg sylwedd dwys a pheirianneg broses. Cyflawnwyd hyn drwy weithio mewn nifer o sefydliadau academaidd ac ymweld â nifer o labordai rhyngwladol sydd wedi arwain at sefydlu cysylltiadau a chydweithio gyda gwyddonwyr blaenllaw ledled y byd. Mae ei hagwedd ryngddisgyblaethol wedi cynhyrchu nifer o ddatblygiadau arwyddocaol sydd wedi denu cydnabyddiaeth gan gyfoedion fel y gwelir mewn nifer o gyhoeddiadau proffil uchel a gwobrau rhyngwladol.
Mae ymchwil presennol yr Athro Margadonna’n canolbwyntio ar ddeunyddiau a phrosesau technolegau sydd oll yn ymwneud â chludo, storio a chynhyrchu ynni. Ei gweledigaeth yw cyfrannu at yr her ynni fyd-eang gan ddatblygu datrysiadau sy’n gost-effeithiol ac yn gynaliadwy’n amgylcheddol.