Trosolwg
Mae Sian yn Uwch Ddarlithydd, Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig ac yn Diwtor Derbyn ar gyfer ymchwil ôl-raddedig yn yr Ysgol Reolaeth. Mae ei gradd israddedig, mewn seicoleg a chwnsela, yn ogystal â'i phrofiad yn y diwydiant, wedi dylanwadu ar ei haddysgu mewn pynciau megis rheoli arloesedd, seicoleg defnyddwyr a dulliau ymchwil. Mae gan Sian PgCert Addysg Uwch ac mae’n Gymrawd yr AAU.
Mae Sian yn aelod o Ganolfan Ymchwil iLab a hi yw’r arweinydd thema ar gyfer Heriau Byd-eang a Chymdeithasol, sy’n ymwneud yn bennaf â ffurfio a chreu effeithiau cadarnhaol ar gyfer unigolion, cymunedau a rhanbarthau. Mae ei PhD ar ymddygiad sefydliadau a gweithluoedd dros dro. Mae hyn gyda’r bwriad o gadw staff o safon ac iechyd a lles gweithwyr.
Mae hi wedi arwain nifer o brosiectau gwerthuso sgiliau gwyddor bywyd, mentrau datblygu ieuenctid a mentrau cydlynu cymunedol fel Cydlynu Ardal Leol.
Mae ei chyhoeddiadau'n cynnwys nifer o bapurau cynhadledd yn AMCIS, ECIE, ISBE yn ogystal â phenodau yn y llyfr Entrepreneurial Learning City Regions: Life Sciences and Health in South West Wales: A Sub-regional Innovation Ecosystem (Springer) a Creating Entrepreneurial Space: Talking through Multi voices, reflections on emerging debates (Emerald). Mae Sian hefyd wedi cyd-ysgrifennu nifer o erthygl yn y cyfnodolion canlynol: International Journal of Information Management, Journal of Strategic Marketing, Information Systems Frontiers, International Journal of Innovation a Regional Development and Frontiers on Psychology