Trosolwg
Mae Sarah Nicholls yn Athro yn yr Adran Fusnes yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, ac yn Ddirprwy Bennaeth arni. Mae ganddi Gadair mewn Creu Lleoedd a Rheoli Cyrchfannau ac mae’n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i’r Economi Ymwelwyr. Cyn ymuno ag Abertawe ym mis Ebrill 2018, treuliodd Sarah 16 mlynedd ym Mhrifysgol Daleithiol Michigan, yn Adrannau Parciau, Hamdden ac Adnoddau Twristiaeth, Cynaliadwyedd Cymunedol, a Daearyddiaeth. Mae ganddi BSc mewn Daearyddiaeth o Goleg Prifysgol Llundain a’i graddau MSc a PhD mewn Gwyddorau Hamdden, Parciau a Thwristiaeth o Brifysgol A&M Texas.
Mae gwaith Sarah yn canolbwyntio ar gynllunio, datblygu a rheoli adnoddau hamdden a chyrchfannau twristiaeth, gyda’r nod yn y pen draw o ddeall a hyrwyddo rôl twristiaeth, hamdden a pharciau wrth greu cymunedau gweithgar, bywiog, gwydn a chynaliadwy. Ariannwyd ei gwaith gan amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Ynys Môn, Travel Michigan/Michigan Economic Development Corporation, Swyddfa’r Great Lakes/Michigan Department of Environmental Quality, US National Oceanic and Atmospheric Administration, Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau, a’r W.K. Kellogg Foundation. Yn 2013, derbyniodd wobr “Outstanding Achievement in Michigan Tourism Award gan y Llywodraethwr Rick Snyder i gydnabod ei chyfraniadau i’r diwydiant twristiaeth yn y dalaith honno.
Mae Sarah yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y cyrsiau BSc ac MSc mewn Rheoli Twristiaeth Rhyngwladol. Mae’n chwilio am fyfyrwyr PhD sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd ar barciau/hamdden/cynllunio, datblygu a rheoli twristiaeth.