Professor Sharon Williams

Yr Athro Sharon Williams

Athro Emeritws (Y Gwyddorau Dynol ac Iechyd)
Faculty of Medicine Health and Life Science

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol

Trosolwg

Mae fy nghefndir academaidd ym maes gweithrediadau gwasanaethau a rheoli’r gadwyn gyflenwi.  Mae fy ymchwil ryngddisgyblaethol yn anelu at wella ansawdd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gan ddefnyddio ymagweddau a ddefnyddir mewn sectorau eraill.   Fel Cymrawd Gwyddor Gwella y Sefydliad Iechyd, bu fy ymchwil yn canolbwyntio ar archwilio’r gwaith o lunio llwybrau gofal cleifion gan ddefnyddio dulliau gwella sy’n deillio o sectorau eraill. Yn fwy diweddar, mae hyn wedi cael ei ehangu er mwyn canolbwyntio ar ymagweddau cydlunio, sy’n seiliedig ar brofiad, at wella cyflyrau hir dymor.  Rwyf yn arweinydd Canolfan Gwella ac Arloesi Abertawe, sy’n ymroddedig i gefnogi gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, rheolwyr a gwneuthurwyr polisi i wella’r gwaith o lunio a darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol.  Rwyf yn aelod o Gymuned Q y Sefydliad Iechyd a chymdeithasau eraill fel Academi Rheoli Prydain.

Meysydd Arbenigedd

  • Gwella ansawdd
  • Rheoli Gweithrediadau Gwasanaethau a Gofal Iechyd
  • Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi
  • Cydgynhyrchu a chydlunio
  • Hunaniaeth broffesiynol
  • Timau integredig
  • Dulliau ymchwil cymysg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Gwella ansawdd

Rheoli Gweithrediadau Gofal Iechyd

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau