Trosolwg
Mae Tracey yn Athro Cysylltiol mewn cyfrifeg a chyllid ym Mhrifysgol Abertawe sy'n arbenigo mewn cyfrifeg ariannol a rheoli ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae gan Tracey flynyddoedd lawer o brofiad o addysgu cyfrifeg a chyllid. Mae Tracey yn Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch a chanddi gymhwyster PGCert. Dechreuodd Tracey addysgu dysgwyr proffesiynol ar gyrsiau AAT ac ACCA a symudodd i fyd addysg uwch yn 2015.
Mae Tracey wedi ymgymryd â sawl rôl ym Mhrifysgol Abertawe.
- Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc Cyfrifeg Strategol
- Cyfarwyddwr y Rhaglen llwybrau trosi ar gyfer yr MSc Cyfrifeg a Chyllid
- Cydlynydd Anableddau Academaidd yr Ysgol Reolaeth
- Cydlynydd Maes Pwnc Cyfrifeg a Chyllid
Graddiodd Tracey â gradd MEng Peirianneg Gemegol o Goleg Imperial Llundain ac wedi hynny cymhwysodd fel Cyfrifydd Siartredig ACA gyda Coopers a Deloitte. Ers cymhwyso mae Tracey wedi cael amryw o rolau ym myd diwydiant gyda blynyddoedd lawer o brofiad ymarferol o gyfrifyddu statudol a rheoli. Mae Tracey bellach yn Gymrawd Cyfrifydd Siartredig (FCA) Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr.