Trosolwg
Mae Dr Dora Pouliou yn Uwch Wyddonydd Data yn Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADR-Cymru). Mae ei hymchwil yn rhyngddisgyblaethol ac mae hi wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau, gan gymhwyso damcaniaethau a dulliau sy'n rhychwantu'r gwyddorau cymdeithasol, epidemioleg ac iechyd y cyhoedd. Mae'r ymrwymiadau ymchwil hyn wedi ehangu ei gwybodaeth a'i harbenigedd wrth gynnal dadansoddiad ar ffynonellau data eilaidd a gweinyddol. Daearyddwr iechyd yw Dora sydd â diddordeb yn y penderfynyddion iechyd a ffocws penodol ar ddylanwad amgylcheddau cymdeithasol a chorfforol y gymdogaeth. Yn fwy eang, mae gan Dora ddiddordeb mewn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag anghydraddoldebau cymdeithasol mewn iechyd, gordewdra, gweithgaredd corfforol (mewn) a chyrhaeddiad addysgol ac iechyd meddwl.