Trosolwg
Ymunodd Tom Hannant ag Ysgol y Gyfraith yn haf 2017. Mae ganddo raddau o Brifysgol Caerdydd (LLB), Prifysgol Caergrawnt (LLM), a Phrifysgol Llundain Queen Mary (PhD).
Prif ddiddordebau ymchwil Tom yw Athroniaeth Gyfreithiol a Gwleidyddol, Cyfraith Gyhoeddus a Hawliau Dynol. Mae ei waith ymchwil presennol yn canolbwyntio ar bynciau sy'n ymwneud â methodoleg ddamcaniaethol, rheolaeth y gyfraith a sylfeini damcaniaethol hawliau dynol. Mae'n gyd-gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethu a Hawliau Dynol Ysgol y Gyfraith ac mae'n cynnull y grŵp trafod Llywodraethu a Hawliau Dynol.
Mae Tom yn addysgu Cyfraith Gyhoeddus a Chyfreitheg i fyfyrwyr israddedig, yn ogystal â goruchwylio sawl myfyriwr ymchwil sy'n gweithio ar bynciau sy'n gysylltiedig â hawliau dynol, cyfraith gyhoeddus, a damcaniaeth gyfreithiol a gwleidyddol. Mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.