Trosolwg
Mae gwaith ymchwil Dr Yohan Pelosse yn canolbwyntio ar sylfaen damcaniaeth gêm anghydweithredol gyda rhai ceisiadau mewn damcaniaeth gornest. Yn ddiweddar, mae Yohan wedi gweithio ar y cysylltiadau rhwng mecaneg gwantwm a sylfaen epistemig damcaniaeth gêm anghydweithredol. Ar hyn o bryd, mae Yohan yn gweithio ar yr amgylchiadau sy’n annog set o weithredwyr i ‘gydweithredu’ eu hymddygiad ar ‘gydbwysedd’ penodol (Nash). Hefyd mae Dr Pelosse yn ymchwilio i’r strwythur gwybodaeth-ddamcaniaethol sy’n sail i syniadau cyffredin damcaniaeth economeg, fel y tyb ‘cyffredin o flaen llaw’ a’r tyb ‘gwybodaeth gyffredin’. Gallai’r ymchwil hon arwain at ddealltwriaeth well o ymddygiad systemau economaidd integredig wrth ystyried damcaniaeth gwybodaeth gwantwm.