Yr Athro Yvonne McDermott Rees

Athro
Law

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd
045
Llawr Gwaelod
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Yvonne ag Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym mis Medi 2017, ar ôl bod yn Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor cyn hynny. Mae hi wedi gweithio hefyd i Adran Materion Tramor Iwerddon, ac fel ymgynghorydd i Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid (UNHCR), Swyddfa Gwasanaethau Goruchwylio Mewnol y Cenhedloedd Unedig  (OIOS) a'r Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop (OSCE). Mae gan Yvonne raddau israddedig yn y Gyfraith gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway, LLM (cum laude) mewn Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol gan Brifysgol Leiden a PhD gan Ganolfan Hawliau Dynol Iwerddon. Cafodd ei thraethawd ymchwil doethurol Glod Arbennig yng Ngwobr Rene Cassin am Draethawd Ymchwil yn 2014 ac yna fe’i cyhoeddwyd gan Oxford University Press dan y teitl Fairness in International Criminal Trials yn 2016. Mae'n Feinciwr Academaidd yng Nghymdeithas Anrhydeddus y Deml Fewnol ac yn Ymgynghorydd Cyfreithiol i'r GLAN (Rhwydwaith Gweithredu Cyfreithiol Byd-eang).

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfraith Trosedd Ryngwladol
  • Tystiolaeth a phrawf
  • Hawliau dynol
  • Hawliau i dreial teg

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae diddordebau ymchwil Yvonne ym meysydd cyfraith a gweithdrefn droseddol ryngwladol, tystiolaeth a hawliau dynol. Caiff ei monograff diweddaraf, Proving International Crimes, ei gyhoeddi gan Oxford University Press yn 2024. Ar hyn o bryd, Yvonne yw Prif Ymchwilydd prosiect TRUE, sy'n archwilio effaith ffugiadau dwfn ar hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o dorri hawliau dynol. Cyn creu TRUE, hi oedd Prif Ymchwilydd prosiect amlddisgyblaethol mawr a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), a fu'n archwilio'r defnydd o dystiolaeth ffynhonnell agored i ganfod ffeithiau at ddibenion hawliau dynol.

Yn ogystal â chyhoeddi mewn cyfnodolion blaenllaw (gan gynnwys American Journal of International Law, Leiden Journal of International Law, Journal of International Criminal Justice, International Criminal Law Review a Law, Probability and Risk), a chyfrolau wedi'u golygu, mae Yvonne yn awyddus i ledaenu ei hymchwil i gynulleidfa ehangach. Mae wedi bod yn destun cyfweliadau ar raglen Today a PM Radio 4, yn The Guardian a'r Washington Post, ar BBC Radio Wales, Raidió na Gaeltachta, ac RTE Radio 1.

Cydweithrediadau