Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Astudiaeth newydd yn datgelu bod crancod yn gallu datrys drysfa a chofio sut i'w llywio
Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu sut y gall crancod gwyrdd lywio eu ffordd drwy ddrysfa gymhleth a hyd yn oed gofio'r llwybr er mwyn iddynt ddod o hyd i fwyd.
Roedd y tîm o wyddonwyr, wedi'i arwain gan y biolegydd morol, Dr Ed Pope, a'r myfyriwr gradd meistr, Ross Davies, am weld a allai crancod gwyrdd ddysgu llwybr drysfa a ddyluniwyd yn bwrpasol er mwyn iddo ennill gwell dealltwriaeth o ddysgu gofodol mewn cramenogion.
Meddai Dr Pope: "Mae dysgu sut i fynd o le i le, a elwir yn 'ddysgu gofodol' gan wyddonwyr, yn allu pwysig ymysg anifeiliaid. Deallwn y gallu hwn yn eithaf da mewn sawl math o anifail, ond nid ydym yn ei ddeall gystal mewn creaduriaid morol megis crancod gan ei fod yn eithaf anodd eu dilyn hwy o fan i fan! Mae dysgu gofodol yn eithaf cymhleth felly gallwn ennill gwell dealltwriaeth o ba mor gyffredin y mae'r gallu hwn, a dysgu yn gyffredinol, ym myd yr anifeiliaid drwy ganfod sut mae'n gweithio ymysg cramenogion."
Profodd ymchwilwyr 12 cranc dros gyfnod o bedair wythnos, gan osod bwyd ym mhen draw'r ddrysfa ym mhob achos. Bu'n rhaid newid cyfeiriad bum gwaith ar hyd y llwybr a arweiniodd at ddiwedd y ddrysfa, ac roedd yn cynnwys tri llwybr pengaead. Dros y cyfnod o bedair wythnos, sylwodd y tîm ar welliant cyson ymysg y crancod o ran yr amser y gwnaethant ei gymryd i ddod o hyd i'r bwyd ym mhen draw'r ddrysfa ac, yn hollbwysig, o ran nifer y troeon anghywir y gwnaethant eu cymryd.
Er syndod mwy, pan ddychwelwyd y crancod i'r ddrysfa bythefnos yn ddiweddarach, ac nid oedd bwyd ar ddiwedd y llwybr y tro hwn, cyrhaeddant oll ddiwedd y ddrysfa mewn llai nag wyth munud – sy'n dangos yn amlwg eu bod wedi cofio'r llwybr.
Cymerodd crancod newydd, nad oeddent wedi bod yn y ddrysfa o'r blaen, lawer mwy o amser i gyrraedd diwedd y ddrysfa ac ni lwyddodd rhai ohonynt i gyrraedd diwedd y ddrysfa o gwbl yn ystod y cyfnod astudio un awr.
Wrth sylwi ar ganfyddiadau'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn Biology Letters, meddai Dr Pope: “Mae'r astudiaeth hon yn bwysig oherwydd ein bod yn gwybod bod gan bryfed, yn enwedig morgrug a gwenyn, rai galluoedd meddyliol trawiadol ond nid ydym wedi astudio'r galluoedd hyn ymysg eu cymheiriaid dyfrol. Nid yw'n syndod, i ryw raddau, fod crancod yn dangos galluoedd tebyg i rai pryfed ond braf yw gallu dangos hyn mewn ffordd sydd mor amlwg. Mae'r gwaith hwn yn agor y drws i arbrofion mwy soffistigedig sy'n ystyried sut y gallai amodau newidiol yn y moroedd effeithio ar allu crancod i ddysgu ac addasu i ddod o hyd i fwyd."
Ychwanegodd y cyd-awdur a'r arbenigwr ar newid yn yr hinsawdd, yr Athro Mary Gagen: "Gwyddwn fod cynifer o bethau'n newid yn ein moroedd oherwydd newid yn yr hinsawdd a achoswyd gan bobl. Mae'n hynod bwysig ennill dealltwriaeth sylfaenol o fywydau'r anifeiliaid y bydd newid yn ein moroedd yn y dyfodol yn effeithio arnynt mewn gwirionedd. Nid ydym yn sôn am yr anifeiliaid carismatig mawr yn unig; mae hyn yn golygu bod anifeiliaid fel crancod yn bwysig i'r gadwyn fwyd hefyd."