Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Astudiaeth yn dangos bod cadw pellter cymdeithasol oherwydd COVID-19 yn cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl
Mae astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Manceinion yn dangos bod cadw pellter cymdeithasol ac ynysu yn cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles emosiynol pobl.
Yn ôl yr ymchwil:
• Mae cadw pellter cymdeithasol yn cynyddu teimladau o orbryder ac iselder ymysg y cyhoedd.
• Y bobl sy'n dioddef fwyaf yw'r rhai sy'n ennill cyflogau isel neu sydd â swyddi ansicr.
• Mae rhai pobl yn poeni y byddant yn parhau i deimlo gorbryder am eu hiechyd a chymdeithasu ar ôl y cyfyngiadau symud, ond mae eraill yn bwriadu ailgydio mewn lefelau arferol o weithgarwch cymdeithasol cyn gynted ag y bo modd.
Mae'r ymchwil ar ffurf adroddiad rhagarweiniol a gyhoeddwyd ar medRxiv, gwefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu darganfyddiadau newydd ynghylch materion amserol cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn (ceir mwy o wybodaeth yn y nodiadau isod).
Dr Simon Williams, ymchwilydd iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n arwain yr astudiaeth, mewn cydweithrediad â Dr Kimberly Dienes a'r Athro Christopher Armitage o Ganolfan Seicoleg Iechyd Prifysgol Manceinion, a Dr Tova Tampe, ymgynghorydd annibynnol yn Sefydliad Iechyd y Byd.
Cynhaliodd yr ymchwilwyr grwpiau ffocws ar-lein gydag oedolion o'r DU a oedd yn cynrychioli cefndiroedd ethnig, oedrannau a swyddi amrywiol, er mwyn archwilio eu barn a'u profiadau yn ystod cyfnod cynnar y cyfyngiadau symud. Hyd yn oed ar ôl cyn lleied â phythefnos, roedd colli'r cyfle i ryngweithio'n gymdeithasol yn peri problemau i bobl.
Mae'r astudiaeth hefyd yn darparu tystiolaeth gynnar o'r ffordd y gallai pobl ymddwyn ar ôl i'r cyfyngiadau symud presennol ddod i ben, rhywbeth a fydd yn dylanwadu ar faint y bydd COVID-19 yn parhau i ledaenu a pha mor gyflym y bydd hynny'n digwydd.
Meddai Dr Simon Williams: “Mae'r cyhoedd yn gwneud ymdrechion anhygoel i gyfyngu COVID-19 rhag lledaenu, a dylai'r ymdrechion hyn barhau am gyhyd ag y bydd eu hangen.
“Yn ôl ein hastudiaeth, mae llawer o bobl yn dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, ond mae hynny'n cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles pobl – yn enwedig y rhai sy'n ennill cyflogau isel neu sydd â swyddi ansicr.
“Un o'r pethau sydd wedi rhoi'r straen fwyaf ar bobl yw'r ffaith nad ydynt yn gwybod am faint y bydd y cyfyngiadau symud yn para. Er bod rhai pobl yn poeni y byddant yn parhau i deimlo gorbryder am gymdeithasu am gryn amser ar ôl i'r cyfyngiadau symud ddod i ben, mae eraill eisoes yn cynllunio llawer o weithgareddau cymdeithasol cyn gynted ag y bo modd.
“Mae angen ymateb yn gyflym o ran rhaglenni iechyd cyhoeddus er mwyn lliniaru'r effeithiau hyn ar iechyd meddwl. Drwy aros tan y bydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol ac ynysu yn cael eu llacio neu'n dod i ben cyn cynnig cymorth, gallai'r effaith ar iechyd meddwl fod yn andwyol ac yn barhaol, yn enwedig ymysg y rhai sydd eisoes yn ddiamddiffyn yn gymdeithasol ac yn economaidd.”
Ychwanegodd Dr Dienes, seicolegydd clinigol ac iechyd ym Mhrifysgol Manceinion: “Un o'r themâu allweddol oedd ymdeimlad o golled. I bobl eraill mae wedi golygu colli strwythur a threfn ddyddiol wrth iddynt geisio cydbwyso gweithio gartref â gofal plant. I bawb mae wedi golygu colli'r cyfle i ryngweithio'n gymdeithasol wyneb yn wyneb.
“Mae ein hastudiaeth yn dangos sut mae'r colledion corfforol hyn yn cael effaith ddilynol ar ffurf ‘colledion’ emosiynol, megis colli hunan-barch, colli cymhelliant a cholli ystyr mewn bywyd pob dydd.”
****Mae'r astudiaeth hon wedi'i rhagargraffu ac adroddiad rhagarweiniol ydyw o waith sydd heb ei ardystio eto drwy adolygiad gan gymheiriaid.
Ni ddylid dibynnu ar ragargraffiad i lywio ymarfer clinigol nac ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd ac ni ddylai'r cyfryngau ei drafod fel gwybodaeth sefydledig.****
Mae'r astudiaeth yn ymddangos ar MedRxiv, sy'n gydweithrediad rhwng Prifysgol Yale, Labordy Cold Spring Harbor (CSHL), sef sefydliad ymchwil ac addysgol nid er elw, a BMJ, darparwr gwybodaeth gofal iechyd byd-eang. Mwy am MedRxiv.