Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Cyfyngiadau symud oherwydd coronafeirws: astudiaeth i'r effaith ar weithgarwch corfforol a lles
Mae tîm o ymchwilwyr wedi lansio astudiaeth newydd i archwilio effaith strategaeth cyfyngiadau symud Llywodraeth y DU ar lefelau gweithgarwch corfforol a lles y boblogaeth yn ystod pandemig Covid-19.
Wedi'u harwain gan Brifysgol Winchester mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Abertawe, Southampton, Portsmouth, Caerwysg, Brookes Rhydychen a Swydd Gaerloyw, mae'r ymchwilwyr yn ceisio recriwtio sampl fawr o oedolion sy'n byw yn y DU er mwyn helpu i ddeall effaith Covid-19 ar weithgarwch corfforol a lles pobl yn ystod gwahanol gyfnodau'r cyfyngiadau symud yn y DU, o osodwyd ar 23 Mawrth 2020.
Bydd yr wybodaeth a gesglir drwy arolwg ar-lein yn helpu i baratoi ymchwilwyr yn well i gefnogi pobl i sicrhau y byddai eu hiechyd a'u lles cystal ag y bo modd pe bai'r wlad yn wynebu cyfyngiadau symud tebyg yn y dyfodol. Bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar lefelau gweithgarwch corfforol presennol oedolion ledled y DU, gan ddarparu gwybodaeth hollbwysig ynghylch sut i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw pan ddaw'r cyfyngiadau symud i ben.
Mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth am arferion gweithgarwch corfforol ar ddechrau 2020, cyn dyfodiad Covid-19, ac yn ystyried pa effaith y mae'r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar lefelau a mathau o weithgarwch corfforol pobl ac, yn bwysig, ar eu lles meddyliol.
Er mwyn olrhain sut mae'r ymatebion hyn yn newid wrth i'r cyfyngiadau symud oherwydd Covid-19 barhau ac ar ôl i ni ailgydio yn ein bywydau arferol yn y diwedd, gwahoddir cyfranogwyr i gwblhau'r arolwg 10 munud oddeutu pedair gwaith dros y 18 mis nesaf.
Meddai Dr James Faulkner, darllenydd mewn ffisioleg ymarfer corff ym Mhrifysgol Winchester, a phrif ymchwilydd yr astudiaeth:
“Bydd yr arolwg hwn yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth bwysig ynghylch a yw'r strategaethau penodol a osodwyd gan y llywodraeth yn cael dylanwad sylweddol, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, ar weithgarwch corfforol a lles poblogaeth y DU. Rydym yn gofyn i gynifer o bobl â phosibl ymroi ychydig o'u hamser i ddweud wrthym sut maent yn teimlo a pha weithgarwch corfforol (neu beidio) y maent yn ei wneud yn ystod y cyfyngiadau symud. Bydd cyfraniad bach gan bob unigolyn yn cael effaith fawr ar ein dealltwriaeth.”
Meddai Dr Kelly Mackintosh o Brifysgol Abertawe, un o gyd-ymchwilwyr yr astudiaeth:
“Un peth cadarnhaol sydd wedi deillio o Covid-19 yw bod y llywodraeth wedi hyrwyddo pwysigrwydd gweithgarwch corfforol. Y tu hwnt i'r holl fanteision ffisiolegol, mae'r manteision i iechyd meddwl o fod yn weithgar yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio y bydd unrhyw newidiadau cadarnhaol i ymddygiad yn parhau pan gaiff y cyfyngiadau symud eu codi. Bydd yr wybodaeth hon yn hollbwysig ledled y pedair cenedl gartref, ac mae fy nghyd-ymchwilydd Dr Melitta McNarry a minnau'n awyddus i gyflwyno mentrau drwy Sefydliad Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd Cymru.”
Mae'r astudiaeth ar agor i bawb dros 18 oed sy'n byw yn y DU.