Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Bydd pobl ifanc ac oedolion anabl yn gallu elwa ar gyngor iechyd a lles gan Brifysgol Abertawe wrth iddynt ymdopi â bywyd yn ystod y cyfyngiadau symud.
Mae cynlluniau Cysylltu Bywydau yn paru unigolion â gofalwyr a all eu cefnogi drwy rannu eu cartrefi a'u bywydau. Mae pobl sy'n defnyddio cymorth Cysylltu Bywydau yn symud i mewn i gartref y gofalwr, neu'n ymweld am y diwrnod, neu am seibiant byr.
Yn ôl arolygwyr, dyma'r math gorau a mwyaf diogel o ofal, sy'n rhoi cyfle i bobl gysylltu â ffrindiau, teulu a chymuned gofalwr Cysylltu Bywydau, yn hytrach na chael eu hynysu mewn mathau mwy traddodiadol o ofal.
Fodd bynnag, mae'r canllawiau ar coronafeirws yn golygu bod y canolfannau dydd y byddai llawer o bobl sy'n cael cymorth Cysylltu Bywydau yn eu defnyddio fel arfer ar gau, felly mae'n rhaid i'w gofalwyr ddarparu gofal 24/7 heb unrhyw doriad, yn groes i ganllawiau'r DU. Gall hyn achosi straen anhygoel, yn enwedig os nad yw pobl yn deall y rhesymau dros y cyfyngiadau ar eu rhyddid.
Meddai Kathryn Morgan, Swyddog Datblygu Cysylltu Bywydau a Mwy yng Nghymru: “Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau yn hynod gadarn, cefnogol a gofalgar. Maent yn cefnogi pobl â salwch meddwl, pobl sy'n byw gyda diagnosis o ddementia, oedolion ifanc a phobl ag anableddau dysgu. Mae'n adeg heriol i bawb – yn enwedig gofalwyr sy'n gofalu yn eu cartref eu hunain heb doriad.”
Ond mae help ar gael bellach, diolch i adnoddau a ddatblygwyd i gefnogi staff y Brifysgol i ymdopi â'r pandemig coronafeirws.
Meddai Colette Leleu, cydlynydd llesiant Gwasanaethau a Systemau Gwybodaeth y Brifysgol: “Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gynnwys sy'n ymwneud â lles i'n staff ar y fewnrwyd – mae'r rhain yn amrywio o gyngor ac awgrymiadau i ddolenni i fideos a dosbarthiadau ymarfer corff byw.
“Mae iechyd a lles ein staff yn bwysig iawn i ni, ond yn y Brifysgol rydym yn gweld ein hunain fel rhan o'r gymuned, felly os oes gennym rywbeth a allai fod yn ddefnyddiol i bobl eraill, rydym yn hapus i'w rannu.
“Rydym i gyd yn yr un sefyllfa ar hyn o bryd. Dyma adeg ryfedd i bawb – rwy'n credu y bydd meithrin perthnasoedd newydd a rhannu pethau yn hollbwysig er mwyn ein helpu i oroesi.”
Bydd gofalwyr Cysylltu Bywydau yn gallu defnyddio fideo-gynadledda, gwefan a bwletinau newyddion dyddiol sy'n cynnig y cynnwys newydd i ddefnyddwyr y gwasanaeth.
Meddai Kathryn: “Rydym yn ddiolchgar iawn am unrhyw fath o gymorth a all ein helpu i hybu lles corfforol a meddyliol gofalwyr Cysylltu Bywydau. Bydd adnoddau'r Brifysgol yn help mawr a byddwn yn gallu eu rhannu â gofalwyr ledled Cymru a'r DU yn ogystal ag yma yn Abertawe.
Ychwanegodd yr Athro Gareth Stratton, Dirprwy Is-ganghellor Gweithgarwch Corfforol, Chwaraeon, Iechyd a Lles: “Mae Prifysgol Abertawe'n sefydliad ag adnoddau gwybodaeth helaeth ac rydym yn croesawu unrhyw gyfle i fynd ati i rannu ein harbenigedd, ein hymarfer a'n hadnoddau â'n cymunedau.
“Mae Cysylltu Bywydau yn gyfle gwych i helpu pobl ifanc ac oedolion y mae angen gofal a chymorth arnynt i ffynnu a blodeuo yn ystod y cyfnod heriol hwn. Rydym yn arbennig o falch o gefnogi'r cyfraniadau anhygoel y mae gofalwyr yn eu gwneud i hybu ansawdd bywyd pawb.”