Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Hanesydd yn datgelu rôl allweddol Prifysgol Abertawe yn ystod yr ail ryfel byd ac yn ei sgil mewn llyfr newydd
Daw hanes Prifysgol Abertawe o dan y chwyddwydr mewn llyfr newydd a gyhoeddwyd i nodi canmlwyddiant y brifysgol yn 2020.
Mae'r cyhoeddiad, sef Swansea University: Campus and Community in a Post-war World, 1945–2020 (Gwasg Prifysgol Cymru), yn archwilio newidiadau academaidd a chymdeithasol ym Mhrydain a'i phrifysgolion ar ôl yr ail ryfel byd, a'r ffordd newidiol y mae sefydliadau addysg uwch wedi rhyngweithio â'u cymunedau, gan ddefnyddio Prifysgol Abertawe fel astudiaeth achos.
Mae'r llyfr, a gafodd ei ysgrifennu gan Dr Sam Blaxland, Cymrawd Ôl-ddoethurol mewn Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, yn trafod amrywiaeth o themâu a phynciau ac yn cynnwys datganiadau o lygad y ffynnon a sylwadau sy'n seiliedig ar gyfres o gyfweliadau llafar â myfyrwyr, aelodau o staff a graddedigion, sy'n dangos sefyllfa newidiol y brifysgol yn yr ardal, yng Nghymru ac yn y byd ehangach, o weithredu gwleidyddol i adfywio lleol.
Yn ôl Dr Blaxland, gellir defnyddio'r llyfr i ddangos tebygrwydd hanesyddol rhwng ymateb Prifysgol Abertawe i'r ail ryfel byd a'r argyfwng parhaus o ran coronafeirws.
“Wrth gwrs, nid yw Covid-19 yn elyn adeg rhyfel, ond dyma'r tro cyntaf ers yr ail ryfel byd i unrhyw beth darfu mewn modd mor sylfaenol ar economi'r wlad, gosod y fath gyfyngiadau ar fywydau beunyddiol pobl, a hwyluso ymdeimlad o ysbryd cymunedol lleol,” esboniodd Dr Blaxland.
“Mae'r sefyllfa wedi darparu her unigryw i'r DU, ac i ddinas Abertawe, ac mae Prifysgol Abertawe wedi ymfalchïo yn ei hymateb i'r argyfwng hwn. Mae pobl o bob rhan o'r brifysgol wedi dod at ei gilydd er mwyn helpu'r GIG a gweithwyr allweddol yn yr ardal leol mewn ffyrdd niferus – o fyfyrwyr yn rhoi gofal plant am ddim i staff rheng flaen, i arbenigwyr yn cynhyrchu hylif diheintio dwylo ac amddiffynwyr wyneb ar gyfer y GIG.
“Yn ystod y rhyfel, ni chyffyrddodd y blitz tair noson ym 1941 â Champws Singleton y brifysgol, felly parhaodd i fod yn lleoliad ar gyfer gwaith rhyfel allweddol, gan ddod yn gartref i Ysgol Frenhinol Mwyngloddiau Coleg Imperial Llundain ac Adran Ymchwil Ffrwydron y llywodraeth. Ymunodd myfyrwyr â'r Gwarchodlu Cartref hefyd ac roeddent yn gyfrifol am fynd ar gyrchoedd patrôl ym Mae Abertawe.”
Yn llyfr Dr Blaxland, mae'n nodi bod nifer y myfyrwyr a oedd yn astudio yng Ngholeg Prifysgol Abertawe, fel y'i hadwaenid bryd hynny, wedi gostwng i 342 erbyn 1945 gan fod cynifer o aelodau staff a myfyrwyr wedi cael eu dethol i gymryd rhan yn y rhyfel.
Yn ôl Dr Blaxland, mae'r blynyddoedd ar ôl y rhyfel yn arbennig o ddiddorol gan eu bod hefyd yn adlewyrchu'r hyn y gallai sefydliadau fel Prifysgol Abertawe ei wneud pan fydd y gwaethaf drosodd o ran yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol.
Meddai: “O'r 1950au cynnar, croesawodd y brifysgol gyfres o Gymrodorion Lles Cymdeithasol y Cenhedloedd Unedig i Abertawe, lle gwnaeth pobl o ddwsinau o wledydd ym mhedwar ban byd astudio am gymwysterau ym maes gwaith cymdeithasol. Roedd llawer mwy nag astudio'n gysylltiedig â hyn. Gwnaethant weithio'n agos gyda phobl, busnesau a chwmnïau yn yr ardal leol er mwyn meithrin dealltwriaeth o anghenion a phroblemau penodol yr ardal. Gwnaethant feithrin cysylltiadau da â llawer o bobl y dref, felly cafwyd cyfnewid diwylliannol yn ogystal ag academaidd.
“Dangosodd y rhyfel a'r cyfnod dilynol sut ymatebodd Prifysgol Abertawe yn greadigol ac yn benderfynol i ddigwyddiad mawr ac mae'r un peth yn wir heddiw.”