Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae prosiect i atal llosgiadau a gefnogir gan arbenigwyr o Brifysgol Abertawe wedi cael effaith ddramatig ar gymunedau yn Nepal.
O ganlyniad i'r fenter a gyflwynwyd gan bartneriaeth a oedd yn cynnwys Canolfan Polisi ac Ymchwil Anafiadau Llosgi Byd-eang y Brifysgol, ni chofnodwyd unrhyw achosion o losgiadau difrifol drwy gydol y gaeaf diwethaf. Cyn i'r fenter ddechrau, cofnodwyd mwy nag 20 o achosion yn y tair ardal dan sylw.
Yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Tom Potokar yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Interburns, corff anllywodraethol a gymerodd ran yn y prosiect ochr yn ochr â Sagun, elusen sy'n canolbwyntio ar waith cymunedol cyfranogol yn Nepal.
Meddai: “Gall anaf llosgi difrifol fod yn hynod wanychol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae adnoddau iechyd yn brin ac nad yw'n hawdd cael gafael arnynt – dyna'r rheswm pam mae'r prosiect hwn wedi canolbwyntio'n bennaf ar atal llosgiadau.
Sefydlwyd y Ganolfan er mwyn cynnig arweinyddiaeth fyd-eang ym maes ymchwil gymhwysol i losgiadau, gan ganolbwyntio ar leoliadau heb lawer o adnoddau. Defnyddir canlyniadau ei gwaith i ddatblygu strategaethau â'r nod o leihau nifer yr achosion o anafiadau llosgi a gwella'r canlyniadau i gleifion.
Mae Nepal yn un o'r gwledydd lle mae'n gweithio'n ddwys mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, gan fanteisio ar hyfforddiant a phrofiad clinigol gwirfoddolwyr Interburns a gwybodaeth leol Sagun, sydd wedi gallu cynnig dealltwriaeth o achosion mwyaf cyffredin llosgiadau.
Meddai'r Athro Potokar: “Gan ddefnyddio gwybodaeth o arolygon ymchwil a gynhaliwyd gan Sagun, rydym wedi newid ein pwyslais i raglenni sy'n argymell cymorth cyntaf ac atal llosgiadau yn y cymunedau.
“Mae llwyddiant anhygoel y prosiect hwn yn cynnig tystiolaeth rymus o'r effaith y gall newidiadau a arweinir gan gymunedau ei chael.”
Kamal Phuyal, o Sagun, oedd arweinydd y rhaglen, a oedd yn cynnwys gweithio gyda gwirfoddolwyr iechyd cymunedol benywaidd, gwirfoddolwyr ieuenctid, myfyrwyr, a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gynyddodd ymwybyddiaeth o anafiadau llosgi a ffyrdd o'u hatal.
Ychwanegodd yr Athro Potokar: “Mae hyn wedi dangos ei bod yn bosib atal llosgiadau rhag digwydd bron pob amser, hyd yn oed mewn amgylcheddau lle mae adnoddau'n brin.
“Byddai ehangu'r prosiect prawf hwn i lefelau rhyngwladol yn sicr o beri problemau, ond byddai'n gwneud gwahaniaeth anferth drwy newid bywydau pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle na cheir gofal iechyd digonol fel rheol.”
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y prosiect a chlywed yr Athro Potokar a Kamal Phuyal yn trafod eu gwaith.