Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Gall Cymru ddal i arwain y ffordd o ran technoleg ynni solar y genhedlaeth nesaf, ar gyfer defnyddiau megis synwyryddion o bell a cherbydau trydan, diolch i gyllid gwerth £2.5m o'r UE a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, er mwyn parhau â rhaglen ymchwil dan arweiniad Abertawe.
Bydd y cyllid yn ehangu SPARC, sef y Consortiwm Ymchwil Academaidd Ffotofoltäig Solar, sy'n cynnwys arbenigwyr solar o chwe chanolfan ymchwil ledled Cymru. Fe'i harweinir gan Ganolfan Ymchwil Ynni Solar Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth.
Mae SPARC eisoes wedi bod ar waith ers pum mlynedd ac mae ganddo gyllideb o £7.2m. Bydd y cyllid newydd hwn, o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yn golygu y gellir ymestyn y gwaith – fel SPARC II – tan fis Mawrth 2023.
Nod SPARC yw datblygu ymchwil i dechnoleg ffotofoltäig solar, sy'n anhepgor er mwyn symud tuag at economi werdd carbon isel. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddiau newydd, gan gynnwys cynhyrchion symudol, awyrennau a'r diwydiant awyrofodol.
Mae'r rhaglen yn helpu i ddatgloi rhagor o fewnfuddsoddi yng Nghymru drwy ymchwil a datblygu ychwanegol ar raddfa fawr ar y cyd â chwmnïau rhyngwladol a gwneuthurwyr arbenigol.
Mae busnesau yn y diwydiant ynni solar yng Nghymru hefyd yn elwa ar gyfleoedd gweithgynhyrchu a mynediad at ymchwil ac arbenigedd o'r radd flaenaf a ddatblygir mewn prifysgolion yng Nghymru.
Meddai Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd:
“Mae'r buddsoddiad hwn yn hwb arall i'n sector ymchwil o'r radd flaenaf yn ogystal â'n pwyslais ar ynni adnewyddadwy fel rhan o'n hymdrech i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd.
Bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gynyddu bri Cymru ymysg cwmnïau byd-eang fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil a datblygu cydweithredol, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd i'n busnesau ynni solar ein hunain.”
Meddai'r Athro Stuart Irvine o Brifysgol Abertawe, Cyfarwyddwr Prosiect SPARC II:
“Mae'r estyniad gwerth £2.5m dros 27 mis yn deyrnged i'r gwaith ymchwil arloesol a wneir gan y chwe chanolfan ymchwil ledled Cymru sy'n rhan o ganolfan SPARC II.
Bydd yr estyniad hwn yn rhoi cyfle i'r tîm ehangu'r ymchwil hon i ymdrin â heriau newydd megis technoleg solar newydd i wefru cerbydau trydan, pŵeru synwyryddion o bell a hwyluso cenhedlaeth newydd o ddyfeisiau trosi solar mwy effeithlon.
Rwy'n edrych ymlaen at achub ar y cyfleoedd a fydd yn deillio o'r cyllid ychwanegol hwn o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac at weithio gyda'n timau ymchwil talentog iawn ledled Cymru er mwyn datgloi cyfleoedd technoleg newydd ar gyfer dyfodol carbon isel.”